Tanygraig

Blas ar Gymru

Nod y prosiect yw i greu profiad Cymreig hollol unigryw a fydd yn dathlu diwylliant a thraddodiadau Cymru. Mae’r prosiect wedi ei anelu at dwristiaid sy’n ymweld â’r ardal ond mae yr un mor berthnasol i fewnfudwyr sydd wedi symud i’r ardal ac hefyd i bobl leol gan y bydd yn cynnig profiad hwyliog sydd ar yr un pryd yn addysgu pobl am draddodiadau a diwylliant Cymru. Mae’r syniad wedi cael ei sbarduno gan y Pentref Maori yn Seland Newydd lle mae cyfle i brofi traddodiad a diwylliant y bobl gynhenid.

Dysgwch fwy…

Pecyn Gwybodaeth

Ydych chi wedi adnabod yr un her â Tanygraig? Cliciwch ar y botwm i weld y Pecyn Gwybodaeth