Canolfan Sain – datblygu gofod digidol a ffisegol
Wedi’i leoli yn adeilad amlbwrpas Canolfan Sain yn Llandwrog, mae Sain yn gartref i stiwdio recordio, nifer o ystafelloedd recordio a dybio ychwanegol, warws a chyfleusterau swyddfa. Sefydlwyd Sain yn 1969 gan Dafydd Iwan, ac mae gan y label gatalog helaeth o dros 2,000 o eitemau ar wahanol fformatau sain.
Prif amcan y prosiect hwn yw cadw a digideiddio catalog Sain mewn modd cynaliadwy, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hygyrch i genedlaethau’r dyfodol ei werthfawrogi. Ar yr un pryd, rydym yn creu gofod rhannu mannau gwaith a chyd-greu yn y ganolfan.