Ffenest Siop
Mae Ffenest Siop yn siop un stop arloesol ac ar-lein, i helpu’r cyhoedd i ddod o hyd i fusnesau a sefydliadau sy’n cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg. Bydd gwefan Ffenest Siop yn sicrhau bod unrhywun sydd eisiau derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg, yn gallu dod o hyd i fusnesau a gwasanaethau sy’n cynnig hyn o fewn ardaloedd ARFOR, a thu hwnt yn y tymor hir.
Dyma blatfform digidol unigryw ac arloesol sy’n hybu’r iaith a’r economi ar yr un pryd, yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chyfloedd i ddefnyddio’r iaith tra’n buddsoddi mewn busnesau a gwasanaethau lleol a thrawsffiniol ar yr un pryd.