Datgarboneiddio Cig Eidion
Wrth i’r sector cig coch ddod o dan bwysau ehangach cynyddol i leihau llygredd carbon/methan, cyfrannu at gyrraedd targedau sero net a sicrhau manteision amgylcheddol ehangach, mae angen i HCC edrych o’r newydd ar sut mae ffermwyr Cymru yn gweithredu ac yn rheoli eu harferion ffermio yn economaidd ac yn amgylcheddol. .
Mae arferion traddodiadol o fagu cig eidion dros 24 mis ar hyn o bryd yn gwaethygu allyriadau methan tra’n erydu elw gros. Mae’r prosiect peilot hwn yn ceisio defnyddio data marchnad hanesyddol a chyfredol ynghyd â pherfformiad ariannol gwirioneddol ffermwyr unigol o fewn ymarfer modelu ‘beth os’ ariannol i werthuso a dangos cyfleoedd ariannol ac amgylcheddol o fabwysiadu arferion newydd sy’n cynnwys pesgi cynnar a chig eidion llaeth.
