Ymestyn y gwefannau bro ar draws ARFOR
Trwy brosiect Bro360, mae cwmni Golwg wedi helpu i sefydlu gwefannau bro llwyddiannus Cymraeg mewn 13 ardal trwy Geredigion ac Arfon. Y cam nesa’ yw ymestyn y rhwydwaith ymhellach i ardaloedd sy’n dangos diddordeb.
Felly, rydym yn awyddus i ddarganfod a oes awydd i greu a chynnal gwefannau bro bywiog, cynaliadwy ar draws ardal ARFOR gyfan, a chreu model masnachol cynaliadwy i wneud gwahaniaeth i ragor o gymunedau – o ran y Gymraeg, datblygu cymunedol a’r economi lleol.