Mentro: Ysgol y Fali

Yn ystod Hydref 2024 fuodd cynlluniau yn datblygu gydag Ysgol y Fali yn Ynys Môn. Rhoddwyd Llwyddo’n Lleol cefnogaeth i ddisgyblion ddatblygu sgiliau mentergarwch i ddylunio, cynhyrchu a gwerthu nwyddau mewn cyfres o ffeiriau ysgol. Cynhaliwyd un o’r ffeiriau yma ar y 3ydd o Ragfyr. Roedd y digwyddiad yn gyfle i’r prosiect gefnogi a rhwydweithio a theuluoedd ifanc. Derbyniwyd adborth positif gan yr ysgol, disgyblion a rheini;

“Mae bod yn rhan o brosiect o’r fath yn rhoi cymhelliant i’r plant i feddwl am eu dyfodol a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt fan hyn ar yr ynys. Trwy blethu nifer o agweddau’r Cwricwlwm i weithgareddau bywyd pob dydd mae’r gwaith wedi bodloni anghenion pob un o’r plant. Rwyf yn siŵr mai hoff ran nifer ohonynt oedd y daith i’r traeth i hel gwydr môr. Byddaf yn aml yn atgoffa fy staff; ‘arwydd o wers dda yw pan mae’r plant yn mynd adref ac eisio parhau gyda’r dysgu neu ymchwil yn amser eu hunain.’  Mae ein prosiect Llwyddo’n lleol yn sicr yn gwneud hyn’’ – Pennaeth Ysgol y Fali

“Rwyf wrth fy modd yn gwneud y prosiect Llwyddo’n Lleol oherwydd rwyf i a fy ffrindiau yn cael gwneud gymaint o bethau gwahanol fel coginio, creu posteri, creu gemwaith a mynd i’r traeth. Mae hyn i gyd yn rhan o’n gwaith ysgol ni. Mae yna rywbeth o ddiddordeb i bawb. Ond yn fwy na hyn, ‘da ni’n gwneud pres.” – Disgybl Ysgol Y Fali

Bydd fwy o ffeiriau mentergarwch yn cael ei gynnal yn yr ysgol yn y flwyddyn newydd.

Gweithgaredd Creu Gemwaith

Gweithgaredd coginio

Gweithgaredd Gwydr Môr