Mentro Prifysgol Aberystwyth

Drwy ein cytundeb gyda Phrifysgol Aberystwyth, mae’r elfen Mentro wedi bod ar waith yma hefyd. Cytunwyd i drefnu dwy raglen Mentro fydda’n targedu myfyrwyr a graddedigion y dair brifysgol o fewn ARFOR.

Rhaglen Busnes - Prifysgol Aberystwyth

Rhaglen Arweinyddiaeth a Mentergarwch - Prifysgol Aberystwyth

Rhaglen Arweinyddiaeth a Mentergarwch

Cafodd y rhaglen gyntaf ei chynnal rhwng y 23ain o Hydref a’r 27ain o Dachwedd. Roedd yn canolbwyntio ar sgiliau arweinyddiaeth a mentergarwch. Drwy broses ymgeisio, daeth pymtheg o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn llwyddiannus a derbyn lle ar y rhaglen. Wrth ymrwymo roedd ddisgwyl i’r unigolion weithio mewn grwpiau i gynnig syniad a fyddai’n ymateb i her maent yn eu hwynebu fel pobl ifanc – unai o fewn, neu tu hwnt i’r brifysgol. Roedd pob unigolyn yn derbyn cyfraniad ariannol o £500 i gefnogi datblygiad syniad.

Trefnwyd cyfres o bump sesiwn wythnosol, gyda phob un ohonynt yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar gampws y Brifysgol. Ymrwymodd pob un o’r unigolion yn llawn i’r cynllun, gan fynychu pob un o’r sesiynau, a chyfrannu’n frwdfrydig i’r gweithgareddau. Y bwriad oedd arfogi’r unigolion gyda sgiliau trosglwyddadwy mewn maes arweinyddiaeth a mentergarwch er mwyn codi cyfraddau cyflogadwyedd graddedigion ifanc. 

Cafwyd trafodaeth ddiddorol dros ben, ac amrywiaeth o syniadau mentergarwch wedi’u datblygu- rhai yn fasnachol, ac eraill yn gymunedol. Cafwyd gweithdai rhyngweithiol difyr gan siaradwyr gwadd, gan ganolbwyntio ar elfen wahanol o arweinyddiaeth a mentergarwch bob wythnos. 

Hwyluswyd y cyfan gan Adam Jones (Adam yn yr Ardd) un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, sydd â phrofiad helaeth ym maes addysg uwch. 

Ar yr 27ain o Dachwedd, fe rannodd y myfyrwyr eu syniadau mewn digwyddiad arbennig, yn y gobaith o dderbyn gwobr ariannol o £1000. Wedi’r cyflwyniadau daeth dau unigolyn i’r brig – Erin James sydd ag awydd sefydlu tîm pêl-rwyd Cymraeg yn Aberystwyth, a Mirain Jenkins sydd eisiau sefydlu busnes hufen ia ar fferm ger Aberteifi. Rhannodd y ddwy y wobr ariannol a byddant yn mynd ymlaen rŵan i ddefnyddio’r buddsoddiad i ddatblygu eu syniadau ymhellach.

Rhaglen Busnes

Yn ogystal â’r rhaglen arweinyddiaeth a mentergarwch mae Llwyddo’n Lleol hefyd wedi treialu cynnal penwythnos preswyl busnes i raddedigion y tair prifysgol yn ARFOR. Cynhaliwyd y penwythnos ar y 15fed-17eg o Dachwedd, ble croesawyd chwech o unigolion mentrus ifanc i ddysgu fwy am sut i gychwyn a datblygu busnes newydd.

Roedd pob unigolyn oedd yn cymryd rhan yn y cynllun yn derbyn £300, gyda chyfle i ennill hyd at £1000 ar ddiwedd y cynllun.

Roedd y syniadau busnes y cyfranogwyr yn amrywiol ac yn cynnwys: 

  • Bythynnod gwyliau ar y fferm
  • Gwasanaeth dysgu ieithoedd
  • Dylunio graffeg
  • Gofod celfyddydol a busnes paentio crochenwaith
  • Gwasanaeth cwnsela
  • Pampro cŵn

Trefnwyd amserlen lawn o gyflwyniadau a gweithdai gan siaradwyr gwadd ar themâu amrywiol a oedd yn cynnwys hanfodion cynnwys busnes, cyllido, marchnata, cymell a mentora, ynghyd â chyflwyniadau gan sefydlwyr busnesau llwyddiannus. 

Ar ddiwedd y penwythnos roedd ofyn i bob un o’r cyfranogwyr i gyflwyno eu syniad busnes i banel o feirniaid yn y gobaith o dderbyn cymorth ariannol. Wedi cyflwyniadau gwych penderfynwyd rhannu wobr ariannol o £1500 yn gyfartal rhwng dau, sef Alicia Baker a’i syniad busnes pampro cwn a Huw Rees a’i fusnes bythynnod gwyliau ar ei fferm.

Derbyniwyd adborth positif gan bobl ifanc o’r ddwy raglen yn dweud eu bod yn teimlo fod yr hyfforddiant wedi galluogi iddynt feithrin sgiliau newydd a datblygu ei dealltwriaeth o fentergarwch;

‘Yn y sesiwn gyntaf fe nodais fy mod eisiau ennill fwy o hunan hyder ac mae’r hyfforddiant wedi galluogi fy hun i fentro ar y cyfle yma. Roedd siarad/cael cyflwyniadau gan nifer o bobl o feysydd gwahanol yn dangos sut mae amrywiaeth i gael a bod pawb yn unigryw sydd wedi rhoi fwy o hyder i mi.’