Gigiau Drych
Yng Ngwynedd mae’r prosiect wedi bod yn gweithio gyda thiwtoriaid ifanc drama Theatr Ieuenctid Môn a chwmni drama Ragarug, oedd yn rhan o’r elfen Mentro busnes llynedd, i dderbyn hyfforddiant pellach er mwyn parhau i ddarparu sesiynau i greadigol i blant a phobl ifanc. Cafodd wyth o bobl hyfforddiant Diogelu Plant gan Paul Jones. Â
Yn ogystal â gweithio gyda thiwtoriaid creadigol, rydym hefyd yn parhau i weithio a chriw o bobl ifanc drwy’r Urdd wrth iddynt ddatblygu cyfres o gigiau Cymraeg (Gigiau Drych). Aeth Criw Gigs Drych draw i Pentre Ifan am benwythnos ble cafodd sgyrsiau am eu camau nesaf. Yn dilyn llwyddiant ei gig gyntaf yn ôl yn yr haf roeddent yn awyddus i drafod sut allwn addasu a cheisio cynnal rhywbeth gwahanol yn y flwyddyn newydd. Fel pobl ifanc oeddent yn teimlo bod diffyg gigiau ‘hamddenol’ i rheini o’r oedran 15-17. Mae nhw felly am ymchwilio i sut y gallent drefnu digwyddiad o’r fath ac wedi meddwl am y posibilrwydd o gynnal rhywbeth ar nosweithiau Sul mewn lleoliadau a chanolfannau mwy cymunedol yn hytrach na trefol.