Mentro: Gigs Môr a Mynydd

Mentro Môn: Gigs Môr a Mynydd

Ym mis Tachwedd 2024 cynhaliwyd gig gyntaf Gigs Môr a Mynydd yn Wellmans, Llangefni. Daeth bron i gant o bobol i fwynhau gwledd o gerddoriaeth Cymraeg byw gan Maes Parcio, Buddug ac i gloi’r noson, Celt. Bu’r grŵp yn prysur baratoi at y digwyddiad, gan gymryd rolau amrywiol megis trefnu’r bandiau, marchnata a hyrwyddo, ac yna gwaith caled ar y diwrnod yn sicrhau bod popeth mewn lle ac yn barod ar gyfer y bandiau a’r unigolion eraill fu’n gweithio ar y digwyddiad. Roedd y pedwar yn awyddus defnyddio bandiau lleol yn ogystal â chefnogi busnesau lleol wrth fynd ati i drefnu’r noson yma. Roedd yn wych gweld lleoliad fel y Wellmans yn llawn dop, gyda phobol o bob oed yn mwynhau’r gerddoriaeth.

Mae’r criw bellach yn edrych ymlaen at gynllunio eu gig nesaf ar yr Ynys a fydd yn cael ei gynnal mis Chwefror-Mawrth.