Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw

Penwythnos Sgwennu Dramâu

Cwmni Theatr sy’n ysgogi ymateb creadigol i’r gymdeithas yr ydym yn rhan ohoni yw Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw. Mae’r prosiect – y penwythnos sgwennu dramâu – yn adeiladu ar lwyddiant dau o’u cynyrchiadau diweddar ac yn ymateb i her amlwg sy’n codi ar hyn o bryd, sef diffyg dramâu byr gwreiddiol newydd yn y Gymraeg.

Eu nod yw gwahodd 10 cyw-ddramodydd i benwythnos preswyl i gael cyfle ac ysbrydoliaeth i sgwennu. Yn hytrach na chreu darn o theatr mewn un noson, bydd cyfle iddynt gael eu mentora am gyfnod o 3 mis wedyn i fireinio eu crefft, cyn cynhyrchu dramâu gwreiddiol i’w cyhoeddi ar ein platfform ar-lein, y Llyfrgell Ddramâu erbyn diwedd y flwyddyn.

Dysgwch fwy…

Pecyn Gwybodaeth

Ydych chi wedi adnabod yr un her â Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw? Cliciwch ar y botwm i weld y Pecyn Gwybodaeth