Datblygu ac Ailfywiogi’r Gweithlu Theatr Dechnegol
Amcan y prosiect hwn yw mynd i’r afael a’r argyfwng sgiliau yn y sector celfyddydau byw a digwyddiadau, yn enwedig trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Nod ein prosiect yw datblygu ac ailfywiogi’r gweithlu theatr dechnegol yng Ngorllewin Cymru ac yn genedlaethol.
Mae prinder difrifol o rheolwyr llwyfan a thechnegwyr sydd â’r sgiliau priodol ac yn barod ar gyfer y gweithle. Nod y prosiect yw i’r garfan sy’n rhan o’r cynllun i gael profiad gwaith dros chwe mis ar draws amrywiaeth eang o gelfyddydau byw, sy’n eu trochi nhw yn y diwydiant, a’u galluogi i wneud cysylltiadau ac yn y pen draw eu gwneud yn barod ar gyfer rolau proffesiynol, boed fel gweithwyr llawrydd neu o fewn sefydliadau. Y gobaith yw creu llwybr gwib ar gyfer dechrau gyrfa yn y maes hwn, er mwyn ehangu’r gweithlu yn gynt ac ateb y galw.