Tyfu Iaith, Tyfu Madarch, Tyfu Partneriaeth
Nod y prosiect yw gwreiddio a manteisio ar eiddo deallusol, profiad ac arbenigedd a gynhyrchwyd gan Madarch Cymru dros ugain mlynedd, mewn tair cymuned yng ngorllewin Cymru; gyda’r nod o roi cyfle i gymunedau difreintiedig elwa o’r prosiect yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn arbennig yn ddiwylliannol.
Mae’r prosiect yn ei hanfod yn tyfu madarch egsotig/gourmet, ond mae’r tyfu yn gyfrwng i fynd â chynnyrch sy’n bodoli eisoes (sy’n hawdd ei dyfu o fewn unedau, gydag enillion masnachol da a buddion iechyd hysbys) i mewn i unedau tyfu cymunedol, ac uwchsgilio pobl leol.