Iaith Gweithle, Iaith Gweithlu
Bwriad y prosiect yw ymchwilio i ddefnydd y Gymraeg mewn gwahanol fathau o weithleoedd yn y bedair sir, gan ganolbwyntio ar ddefnydd y gweithlu, er mwyn cael gwell dadansoddiad o’r sefyllfa bresennol a’r ffactorau sydd yn effeithio ar arferion ar hyn o bryd.
Bydd canlyniadau’r prosiect yn cryfhau sail y dystiolaeth ac yn gwella’r ddealltwriaeth sydd ar gael er mwyn gallu targedu ymyraethau polisi effeithiol a phwrpasol gyda’r nod o gynnal a chynyddu defnydd y Gymraeg ymysg y gweithlu ac mewn gweithleoedd mewn ardaloedd ble mae canran y siaradwyr yn uchel.