Datblygu Cadernid Iaith i’r Maes Gofal Plant
Nod y prosiect hwn yw datblygu a pheilota hyfforddiant Cadernid Iaith (Linguistic Assertiveness) ar gyfer y maes gofal babanod a phlant ifanc. Ein gweledigaeth yw creu hyfforddiant Cadernid Iaith bydd yn sicrhau bod ymarferwyr gofal plant yn gweithredu Cadernid Iaith yn eu gwaith ac o ganlyniad bydd siarad, chwarae a chyfathrebu drwy’r Gymraeg yn beth naturiol i fabanod a phlant ifanc cyn iddynt gyrraedd oed ysgol.
Datblygwyd y cysyniad o Gadernid Iaith o brosiect meithrin hyder ieithyddol Ewropeaidd, LISTEN. Yn aml, mae siaradwyr ieithoedd fel y Gymraeg yn addasu eu hymddygiad ac yn troi i iaith fwyafrifol gan osgoi defnyddio eu iaith eu hunain. Cydweithiwyd gyda phartneriaid Catalaneg, Gwyddeleg, Hwngareg, a Ffriseg fel rhan o’r prosiect. Yn dilyn hyn, mae’r partneriaid amrywiol (gan gynnwys IAITH) wedi mynd ati i ddatblygu hyfforddiant Cadernid Iaith.