Goiawn

Taith Antur Amser

Gydag argaeledd cyson o adloniant Saesneg gafaelgar, drwy’r cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni ffrydiol a gêmau ar-lein, mae profiadau addysgol Cymru yn pylu o gymharu. Gan ddefnyddio pecyn gwreiddiol newydd sydd yn cynnwys model addysgu arloesol, bydd cwmni Goiawn yn rhedeg rhaglen i ddarparu profiadau llythrennedd Cymraeg fydd yn mynd i’r afael â’r broblem hon.

Bydd profiad Antur Amser yn ateb her cenedl newydd wrth blethu agweddau gafaelgar y byd adloniant gyda chynnwys addysgol o’r safon uchaf gan ddefnyddio’r dechnoleg ymgolli ddiweddaraf.

Dysgwch fwy…

Pecyn Gwybodaeth

Ydych chi wedi adnabod yr un her â Goiawn? Cliciwch ar y botwm i weld y Pecyn Gwybodaeth