Fflach Cymunedol Cyf
Gwelwyd y galw 40 o flynyddoedd yn ôl pan sefydlwyd Fflach ar gyfer talentau ifanc Cymraeg yn ardal Aberteifi ac mae’r galw yr un mor gryf. Dros y blynyddoedd mae nifer fawr o grwpiau ac unigolion wedi manteisio ar y cyfle i recordio eu gwaith yn y stiwdio yn Fflach. Yn dilyn colli 3 o’r sylfaenwyr, Wyn Jones, Richard Jones a Kevin Davies dros y blynyddoedd dwethaf, maent eisiau trosglwyddo cwmni Fflach i fod yn gwmni cymunedol.
Yn yr hir dymor, maent yn gobeithio ail-leoli y stiwdio o fewn y dref sy’n rhan o brosiect arall yn Aberteifi er mwyn rhyddhau y tŷ ble lleolir y cwmni ar hyn o bryd i’r teulu, a hoffent adeiladu stiwdio newydd sbon. Hoffent hefyd greu arddangosfa o hen luniau, posteri, peiriannau,recordiau, casetiau a chrynoddisgiau i enwi rhai pethau fydd i’w gweld.